Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Medi 2016
Amser: 09.01 -
10.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3726
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Suzy Davies AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Rosemary Fox, Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Jessica England (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld
trawsgrifiad
o drafodion y cyfarfod (PDF 556KB) Gweld fel
HTML (144KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Roedd Suzy Davies yn bresennol lle Janet Finch-Saunders.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am eglurhad ynglŷn â sut mae'r gofyniad ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 8 Ionawr 2016) yn gweithio’n ymarferol a’r dylanwad y mae’n ei gael, sef bod rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ystyried sylwedd sylwadau lleol, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wnaed gan grwpiau cymunedol lleol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i anfon yr ohebiaeth a gafwyd hyd yn hyn at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a gofyn am gael ein hysbysu am ganlyniadau'r trafodaethau sy’n cael eu hwyluso gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid gweithredu ymhellach yn ddiweddarach.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y deisebwyr yn eu llongyfarch ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch ac i gau’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar y ffordd orau i weithredu ar y ddeiseb.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.2 ar yr agenda.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid, a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am gael ein hysbysu am ganfyddiadau adroddiad y grŵp diwydiant cyn ystyried y camau gweithredu nesaf gyda’r ddwy ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Pwyllgor a chytunwyd i aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar y ffordd orau i weithredu ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebwyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a gofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor pan fydd penderfyniad wedi’i wneud ar y cynigion ar gyfer yr arwyddion newydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunwyd i ofyn i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ystyried y ddeiseb fel rhan o'i ymchwiliad arfaethedig i arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ei ganfyddiadau ac unrhyw argymhellion maes o law.
Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.
Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda:
· rhagor o wybodaeth am ganran y canlyniadau cadarnhaol ffug a ddychwelwyd gan y prawf gwaed CA125;
· cost yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari a drefnwyd gan Felindre ym mis Mawrth 2016: a
· rhagor o wybodaeth am y gost o weinyddu prawf CA125 unigol.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth yr oedd wedi’i chlywed gan y Gweinidog a chan y deisebydd yn y cyfarfod blaenorol, a chytunwyd i ysgrifennu at nifer o elusennau canser i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb cyn ystyried y camau nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion am yr amserlen ar gyfer cwblhau adolygiad y meddygon teulu o’r achosion o ganser yr ofari y bu diagnosis ohonynt yn ystod 2015.